Language

  • English
  • Welsh
 
Castell Cas-gwent

Dechreuwyd adeiladu’r Castell godidog hwn, sydd ar greigiau calchfaen uchel yn syth uwchben dyfroedd tymhestlog yr Afon Gwy, ym 1067. Castell Cas-gwent yw un o’r cestyll hynaf ym Mhrydain a adeiladwyd o gerrig. Mae’r Castell yn hawlio’r golygfeydd mwyaf syfrdanol dros yr hyn a oedd yn fan croesi strategol i mewn i Gymru; safle perffaith o ran amddiffyn.

Fe werthwyd holl docynnau cyngerdd 2006 lle croesawyd Kate Rusby .  Cyfyngwyd y nifer i 1800 o seddau (heb eu cadw). Cafwyd barrau ac adloniant y tu allan i’r Castell cyn y Cyngerdd ac yn ystod y dydd. Nid oedd mynediad i unrhyw ardaloedd o fewn y Castell yn ystod y cyngerdd, ond roedd croeso i ymwelwyr weld y Castell yn ei ogoniant yn ystod y penwythnos o Gerddoriaeth a Dawns.

Rydym yn ystyried y digwyddiadau yr ydym yn eu trefnu, fel gwir gyfle i gyflwyno’r cyhoedd eang i hanes a thraddodiadau Cas-gwent a’i Chastell, ac eleni, mae Cadw wedi cytuno i berfformiadau Cerddorol a Dawns draddodiadol yn ystod oriau agor arferol y Castell. Mae’r Castell ei hun ar gau i ymwelwyr am 6pm ac yn ailagor ar gyfer y Cyngherddau am 6.30pm. Mae’r Beili Isaf yn safle awyr agored sy’n cynnig eisteddleoedd; yn amffitheatr naturiol ac yn lleoliad aruthrol ar gyfer Cerddoriaeth Gwerin.

Ymhlith y lleoliadau eraill mae Glan Afon Cas-gwent, Y Neuadd Ymarfer, Yr Eglwys Blwyf, Porth y Dref, Gwesty’r Beaufort, ‘Five Alls’, Y ‘Coach and Horses’, Y ‘Three Tuns’ ac eraill, i’w cadarnhau.

 Yn Newydd ar gyfer 2008 : Prif Gyngerdd  Nos Wener  ar Faes Gwersyll  y Cwrs rasio.