|
Dechreuwyd
adeiladu’r Castell godidog hwn, sydd ar greigiau calchfaen uchel
yn syth uwchben dyfroedd tymhestlog yr Afon Gwy, ym 1067. Castell
Cas-gwent yw un o’r cestyll hynaf ym Mhrydain a adeiladwyd o
gerrig. Mae’r Castell yn hawlio’r golygfeydd mwyaf syfrdanol
dros yr hyn a oedd yn fan croesi strategol i mewn i Gymru; safle
perffaith o ran amddiffyn.
Fe
werthwyd holl docynnau cyngerdd 2006 lle croesawyd Kate
Rusby
. Cyfyngwyd y nifer i 1800 o seddau (heb eu cadw). Cafwyd
barrau ac adloniant y tu allan i’r Castell cyn y Cyngerdd ac yn
ystod y dydd. Nid oedd mynediad i unrhyw ardaloedd o fewn y Castell
yn ystod y cyngerdd, ond roedd
croeso i ymwelwyr weld y Castell yn ei ogoniant yn ystod y penwythnos o Gerddoriaeth a
Dawns.
Rydym
yn ystyried y digwyddiadau yr ydym yn eu trefnu, fel gwir gyfle i
gyflwyno’r cyhoedd eang i hanes a thraddodiadau Cas-gwent a’i
Chastell, ac eleni, mae Cadw wedi cytuno i berfformiadau Cerddorol a
Dawns draddodiadol yn ystod oriau agor arferol y Castell. Mae’r
Castell ei hun ar gau i ymwelwyr am 6pm ac yn ailagor ar gyfer y
Cyngherddau am 6.30pm. Mae’r Beili Isaf yn safle awyr agored sy’n
cynnig eisteddleoedd; yn amffitheatr naturiol ac yn lleoliad aruthrol
ar gyfer Cerddoriaeth Gwerin.
Ymhlith y lleoliadau eraill mae
Glan Afon Cas-gwent, Y Neuadd Ymarfer, Yr Eglwys Blwyf, Porth y
Dref, Gwesty’r Beaufort, ‘Five Alls’, Y ‘Coach and Horses’,
Y ‘Three Tuns’ ac eraill, i’w cadarnhau.
Yn Newydd ar gyfer 2008 : Prif Gyngerdd Nos Wener ar Faes Gwersyll y Cwrs rasio.
|