|
Beth
am fod yn Stiward?
Mae Gwyl y Ddwy Afon yn chwilio am bobl sy’n rhannu ein brwdfrydedd dros y Gymuned ac a hoffai rhoi ychydig o’u hamser (cyfanswm o tua 12 awr dros y penwythnos), arbenigedd a phersonoliaeth dros y Penwythnos yn gyfnewid am fand arddwrn penwythnos sy’n caniatáu mynediad i holl leoliadau a pherfformiadau. Mae Stiwardiaid yn rhan annatod o sefydlu Gwyl, ac i’r cyhoedd, stiwardiaid yw ‘hwynebau’ cyfarwydd yr achlysur.
Mae dyletswyddau stiwardiaid yn amrywiol wrth gwrs, ond maent yn cynnwys llwytho a dadlwytho cyfarpar; rheoli traffig, rholi tocynnau yn ogystal â rheoli’r lleoliad; casglu ysbwriel; gwaith yn swyddfa’r wyl; cysylltu ag artistiaid ac ati. Beth bynnag yw eich sgiliau penodol, byddwn yn siwr o’u defnyddio!
Hyd yn oed os nad ydych erioed o’r blaen wedi ystyried cymryd rhan yn y fath ffordd, ddim hyd yn oed yn siwr os oes gennych y sgiliau perthnasol, ond yn hoff iawn o’r hyn yr ydym yn ei wneud, beth am gyflwyno Ffurflen Gais. Does dim angen profiad ac nid yw oed na symudedd yn bwysig, maen siwr y gwnawn ni ffeindio rhywbeth i bawb.
Rydym yn siwr y cewch o leiaf gwerth eich hymdrech !
Yr unig beth a ofynnwn yw bod ein Stiwardiaid yn ymfalchïo yn eu dyletswyddau, yn glynu at y Telerau ac Amodau, a thrwy eu priodoleddau personol, yn ein helpu i greu amgylchedd cyfeillgar effeithiol ar gyfer ein hymwelwyr
Fel Stiward byddwch yn gweithio dan un o Gyfarwyddwyr y Digwyddiad neu un o’r pum Rheolwr. Maent oll yn brofiadol a cheir hyfforddiant llawn; rhoddir llawer mwy o wybodaeth adeg ein Cyfarfodydd Sefydlu Stiwardiaid cyn eich shifft gyntaf. Rhoddir llety i’r rheiny ohonoch sy’n teithio cryn bellter. Rydym yn griw cyfeillgar ac rydym wedi ymrwymo i greu tîm cyfeillgar. Diddordeb?
Lawrlwythwch y Ffurflen Gais , neu ar yn ail cysylltwch â ni ar 07870 611 979, neu ysgrifennwch at ein Swyddfa Docynnau ac fe wnawn ni ddanfon un atoch.
Rhowch gynnig arni. Dyma’ch cyfle i fod yn gysylltiedig â Gwyl a helpu pobl i fwynhau eu hunain !!
Mae gwybodaeth bellach gan Mike ar 07870 611 979 neu Tim@tworiversfolkfestival.com
|