Language

  • English
  • Welsh
 
Mudiadau sy’n Cefnogi

‘Folk Arts England’:

Asiantaeth ddatblygu cenedlaethol a noddir gan Gyngor y Celfyddydau, ar gyfer cerddoriaeth Gwerin, Roots, Traddodiadol ac Acwstig yn Lloegr. Ei gylch gwaith eang yw hyrwyddo, cefnogi a datblygu perfformiadau o’r uchod. www.folkarts-england.org

Dan fantell uniongyrchol Folk Arts England y mae...

Cymdeithas Trefnwyr Gwyliau (AFO):

Yn gweithio ar gyfer, a chyda trefnwyr gwyliau ar bob graddfa, cefnogi cerddoriaeth byw, dawns, cân, celfyddyd, crefftau a theatr. Mae gan yr AFO brofiad eang ac maent ar gael am gyngor ar unrhyw agwedd o drefnu digwyddiadau. Mae’n cynnal cynadleddau cyson ar gyfer trefnwyr a gallant fod yn ddefnyddiol dros ben ar gyfer y brif raglen ond hefyd am eu gallu i hwyluso cysylltiadau uniongyrchol a’u profiad heb ei ail. www.afouk.org

Gwyl Cas-gwent:

Rhaglen helaeth o ddigwyddiadau Celfyddydol, mis o hyd, a gynhelir bob yn ail flwyddyn, yn amrywio o Shakespeare i Opera ysgafn a 'Chelf ar y Rheiliau'; sydd wedi eu lleoli o fewn ac o gwmpas Cas-gwent. Ar ôl ei ymddangosiad cyntaf yn 1984 mae’r Wyl wedi mynd o nerth i nerth, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf cafwyd uchafbwynt o son et lumiere. Yr uchafbwynt eleni fydd y penwythnos o Gerddoriaeth a Dawns a Kate Rusby yn fyw yng Nghastell Cas-gwent! Mae www.chepstowfestival.co.uk ar hyn o bryd yn cael ei adnewyddu.

CAMRA – Yr Ymgyrch am Gwrw Go Iawn:

Mae’r Ymgyrch am Gwrw Go Iawn ychydig yn fwy na mae’r enw’n awgrymu. Mewn gwirionedd mudiad defnyddwyr gwirfoddol ydyw sy’n hyrwyddo ansawdd, dewis, gwerth am arian a gwell gwerthfawrogiad o gynnyrch alcohol traddodiadol. Canllaw Cwrw Da CAMRA yw 'Beibl yr yfwyr' a dylai pob Dawnsiwr Morris da ei ddarllen! www.camra.org.uk