Language

  • English
  • Welsh
 
Welcome to Chepstow - Croeso i Gas-gwent

Tref marchnad brydferth yn Sir Fynwy yw Cas-gwent, sy’n doreth o hanes a thraddodiad, ac yn gorwedd yn nyffryn yr Afon Gwy. Wedi ei leoli mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol, mae Cas-gwent yn manteisio ar ei agosrwydd i

Ddyffryn Gwy a Fforest y Ddena. Mae’r dref yn ddelfrydol ar gyfer diwrnodau allan i’r teulu, ac mae’n hawdd ei chyrraedd ar rheilffordd, ffyrdd a’r rhwydwaith tramffordd, gyda gwasanaeth trên cyson yn ogystal â gwasanaethau bysiau o Lundain, Abertawe a Bryste.

 

Mae tref farchnad Cas-gwent yn dyddio yn ôl i 1067 pan adeiladwyd Castell Cas-gwent, a bu’n gartref i nifer o gymeriadau nodedig gan gynnwys Nelson, Brunel, a Cromwell. Mae’r enw ‘Chepstow’ yn deillio o’r hen eiriau Seisnig 'Chepe' a 'Stowe' sy’n golygu Lle Marchnad. Mae’r enw Cymreig Cas Gwent yn golygu 'Porthladd Gwent' , yn adlewyrchu hanes morwrol cyfoethog y dref.

Mae Cas-gwent erbyn hyn yn ganolfan ar gyfer twristiaeth, sy’n cynnig amrywiaeth eang o Leoedd i Aros a phethau i’w gwneud, neu le i ymlacio a mwynhau’r tafarndai traddodiadol, y Caffes, Bwytai, siopau a chyfleusterau lleol. Mae datblygiad canol y dref a enillodd wobr yn ddiweddar, yn seiliedig ar ganol y dref draddodiadol fel yr oedd dwy ganrif yn ôl.